Deg oed yw Nest pan mae ei bywyd yn chwalu’n deilchion. Mae ei thad, y Brenin Rhys ap Tewdwr, yn farw, a gweddill ei theulu wedi eu gwasgaru wrth i’r Normaniaid ddinistrio Deheubarth yr unfed ganrif ar ddeg.
Caiff Nest ei llusgo i’r Gororau’n garcharor, i Lundain at lys Brenin Lloegr ac i ganol terfysg gwaedlyd. Wrth iddi geisio darganfod tynged ei theulu rhaid i Nest benderfynu lle mae ei theyrngarwch hi, a mentro pob dim i ganfod ei ffordd yn ôl i’r man mae hi wir yn perthyn iddo.
Nofel hanesyddol bwerus sy’n portreadu bywyd Nest, Tywysoges y Deheubarth. Wedi’i lleoli yng Nghymru’r 12fed ganrif, mae’r nofel yn archwilio hunaniaeth, gwytnwch ac asiantaeth mewn cyfnod o wrthdaro gwleidyddol.
Nest is just ten years old when her life falls apart. Her father, King Rhys ap Tewdwr, is dead, and the rest of her family are scattered as the Normans ravage South Wales.
Nest’s journey takes her to the Welsh Marches as a prisoner, to London to the court of the King of England, and finally back to Wales. As she tries to discover the fate of her family and treads an uncertain path between the Normans and the Welsh, a nation is plunged into war, and Nest must decide where her loyalties lie, and risk everything to find her way back to where she really belongs.
A powerful historical novel about Nest, Princess of Deheubarth. Set in 12th century Wales, it explores survival, identity and divided loyalties amid political upheaval.

‘Campwaith‘
‘Nofel hynod gyda merch gref wrth y llyw. Dwi’n teimlo fy mod i wedi byw drwy’r cwbl gyda Nest a chyd-deimlo ei hemosiynau at fy esgyrn. Ei hangerdd, ei hing, a’r gobaith styfnig hwnnw sy’n gydymaith iddi yn ei hawr dywyllaf. Er i’r cymeriadau fyw mewn system frenhinol bedantig sy’n oeraidd ar y gorau, a chan amlaf yn giaidd tu hwnt i bob rheswm, mae’r ddynoliaeth yn pefrio hefyd, diolch i’r merched. Dyma’r gynhaliaeth.’
Sioned Erin Hughes
‘Syfrdanol‘
‘Nofel gyntaf syfrdanol – wedi’i hymchwilio’n arbenigol ac fel yr awduron ffuglen hanesyddol gorau, mae Marged Berry yn gwybod beth i’w ddatgelu a beth i’w adael heb ei ddweud. Nid yw Berry wedi atgyfodi ffigur hanesyddol sy’n aml yn cael ei anghofio yn unig, mae hi wedi rhoi inni, yn Nest, arwres Gymreig ar gyfer ein hoes. Roeddwn i wrth fy modd hefo’r llyfr hwn.’
Nicola Edwards
‘Anorchfygol‘
‘Anodd yw dod o hyd i eiriau a fyddai’n gwneud cyfiawnder â gorchest y nofel hon. Dim ond merch a mam a allai fod wedi’i hysgrifennu: un ddeallus, gynnil, graff ac â dawn farddonol sylweddol. Mae dehongliad Marged Berry o gymeriad Nest a’i phortread o’r byd roedd hi’n byw ynddo 900 o flynyddoedd yn ôl yn fwy na chredadwy: mae’n anorchfygol. Roedd angen gwaith ymchwil manwl ar yr awdur wrth gwrs, er nad yw’r darllenydd yn sylwi ar hwnnw, ac yntau wedi’i wisgo mor ysgafn.’
Simon Chandler
